Neidio i'r cynnwys

Beli Mawr

Oddi ar Wicipedia
Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Beli.
Beli Mawr
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
OlynyddCaswallawn fab Beli, Brenin y Catuvellauni
PlantCaswallawn fab Beli, Lludd fab Beli, Arianrhod, Llefelys, Afallach

Roedd Beli Mawr neu Beli (Mawr) fab Manogan yn gymeriad mewn mytholeg Gymreig. Wrth yr enw Lladinaidd Belinus filius Minocanni, mae'n ymddangos fel brenin Brythoniaid yr Hen Ogledd yn yr Historia Brittonum a briodolir i Nennius. Roedd yn dad i Caswallon fab Beli.

Mae'n cael ei enwi ar ddechrau Cyfranc Lludd a Llefelys, mewn un o'r cerddi mytholegol a briodolir i'r bardd Taliesin yn Llyfr Taliesin, ac ym Mreuddwyd Macsen, lle y dywedir bod Macsen Wledig wedi cymryd meddiant ar Ynys Brydain oddi ar Beli fab Manogan. Yn yr Hen Ogledd, roedd arweinwyr ac arwyr fel Urien Rheged, Gwenddolau a Llywarch Hen yn olrhain eu tras i Feli trwy eu cyndaid Coel Hen. Roedd pob un o deuluoedd brenhinol Cymru, er enghraifft teulu Cunedda, sefydlydd teyrnas Gwynedd, yn hawlio eu bod yn ddisgynyddion i Beli Mawr. Fe all fod yn cyfateb i'r duw Celtaidd Belenus. Dichon hefyd bod enw'r dduwies Geltaidd Belisama yn tarddu o'r un gwreiddyn.

Mewn rhai ffynonellau mae'r dduwies Dôn yn ferch iddo. Cyfeirir ato fel tad Caswallon a Lludd a Llefelys.

Yn yr Historia Regum Britanniae, mae Sieffre o Fynwy yn troi Beli'n Heli, a dan yr enw hwnnw y mae cymeriad Beli yn adnabyddus fel ffigwr yn y rhamantau diweddarach am y brenin Arthur yn Ewrop.

Hynafiad llinach brenhinoedd Cymru

[golygu | golygu cod]

Awgrymir gan yr awdur Rachel Bromwich y daw llinach brenhinoedd cynnar Cymru o Beli Mawr. Awgrymir gan Ifor Williams y dylid uniaethu Beli Mawr gyda'r duw Galaidd Belenos neu Belinos. Fe wnaeth yr awduron J Koch ac O'Rahilly ddeillio Beli o'r dduwoliaeth Belgios ac yr oedd Belgi Prydain a Gawl yn hawlio Belgios fel eu hynafiad.[1]

Dywed Brut y Tywysogion, "nur yth iolaf budic veli amhanogan. . . ynys Vel Veli teithiawc oed idi" ac yn llyfr gwyn y Mabinogion "Ac y gwerescynnwys (yr amherawdr Macsen) yr ynys ar veli mab Manogan a’e veibon". Hynny yw, bod yr ymerawdwr Macsen wedi concro'r ynys oddi wrth Beli fab manogan a'i feibion. Yn Historia Brittonum, dywedir fod Iwl Cesar wedi ymladd yn erbyn "Dolobellus qui et ipse Bellinus vocabatur, et filius erat Minocanni. Beli fab Mynogan".[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 288–289. ISBN 978-1-78316-146-1.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, arg. newydd, 1991)
  • Meic Stephens (gol) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) ISBN 0-7083-0915-1